What will I learn?
Wrth ddewis astudio BA Creu Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddwch yn astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn eich ysbrydoli. Cewch ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei gynllunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac mi fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol.Dyma rai o'r rhesymau dros astudio Creu Perfformio yn Aberystwyth:- adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd- cyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol o ymdrin â’r pwnc- staff dysgu rhagorol ag ystod eang o arbenigedd ym maes ymchwil a chreu theatr yn broffesiynol- cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine a Theatr Genedlaethol Cymru- cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob- cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau ar y campws, sef un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd- cymdeithasau drama egnïol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth- lleoliad daearyddol unigryw- cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol.**Cyflogadwyedd**Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’n holl weithgareddau. Byddwch yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith mae: gweithio’n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu perfformiadau byw; defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a sgiliau datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd; ymchwilio, cloriannu a threfnu gwybodaeth; saernïo a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amryw o sefyllfaoedd ac mewn amryw o ffyrdd; gweithio’n annibynnol a gydag eraill; trefnu'ch amser a defnyddio'ch sgiliau’n effeithiol; gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio; eich cymell eich hun ac arfer hunanddisgyblaeth; defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth; dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y mae'n bosib y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.**Y flwyddyn gyntaf:**- modiwlau rhagarweiniol ar greu, meddwl ac astudio- dulliau cyfoes o greu theatr mewn stiwdio ac ar safle penodol- enydau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a’r theatr- dadansoddi drama, theatr a pherfformio.**Yr ail flwyddyn:**- dulliau cyfoes o greu theatr o safbwynt ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol- gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn- actio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, dyfeisio, a dylunio- datblygiad y Theatr Ewropeaidd fodern- Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes- theatr a’r gymdeithas gyfoes- y cyfryngau newydd ac ysgrifennu ar gyfer perfformio.**Y flwyddyn olaf:**- creu gwaith creadigol annibynnol- cwblhau prosiect ymchwil mawr ac astudiaethau damcaniaethol uwch- meithrin eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu unigol ac mewn grŵp- datblygu'ch sgiliau mentergarwch drwy gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol- ysgrifennu sgript i'ch drama eich hun- astudio modiwlau arbenigol a all ymdrin â phynciau megis: gofod, lle a thirwedd, perfformio ac athroniaeth, perfformio, gwleidyddiaeth a phrotest, theatr, rhywedd a rhywioldeb, perfformio a phensaern