麻豆原创

ip target image
You are currently browsing our site with content tailored to students in your country

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) BA (Hons)

UK

1

What will I learn?

Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy'n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol. Mae dau lwybr astudio ar gael: 鈥A (Hons) Early Years Professional Practice (with Early Years Practitioner Status) 鈥A (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (SYBC), gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith wedi'i gyfuno 芒 gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal 芒'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer Blynyddoedd Cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i newidiadau yn y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a'r DU er mwyn darparu arbenigwyr plentyndod cynnar cymwys sy'n gweithio gyda phlant ifanc a'u teuluoedd. Agwedd sylfaenol ar y radd yw'r 700 awr o brofiad wedi'i asesu sy'n seiliedig ar ymarfer y byddwch chi'n ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hwn yn cynnwys lleoliad wythnosol yn ystod pob blwyddyn o'ch astudiaeth, mewn ystod o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth Blynyddoedd Cynnar/Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant integredig a chyfleusterau gofal dydd. Fel rhan o'ch gradd byddwch hefyd yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn cael profiad uniongyrchol o'r dull deinamig hwn o addysg gynnar. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyfle i dreulio amser yn ein hystafell MiniMets a ddatblygwyd er mwyn galluogi i brofi rhagoriaeth yn ymarferol trwy sesiynau ymarferol. Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae'r radd hon hefyd yn rhoi sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig, fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.*Mae'r radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynnar mewn cyd-destun dwyieithog. Er bod peth o'r rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r cwrs dwyieithog ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwra'r cynnwys Cymraeg i weddu'ch gallu ieithyddol Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd 芒 galluoedd a chymwysterau dwyieithog.Er mwyn graddio gyda'r radd ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr astudio o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys i gael ysgoloriaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at 拢3000 dros y tair blynedd.* Sylwer: Bydd y rhaglen hon yn destun adolygiad yn ystod ym mis Rhagfyr 2019. O'r herwydd, gall cynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau wedi iddynt gael eu cadarnhau.

Which department am I in?

Cardiff School of Education and Social Policy

Study options

Full Time (3 Years)

Tuition fees
拢16,000.00 (US$ 20,663) per year
拢16000 Per year

This is a fixed fee

*Price shown is for indicative purposes, please

Start date

September 2025

Venue

Cardiff Met - Cyncoed

Cardiff Metropolitan University,

Cyncoed Road,

Cardiff,

CF23 6XD, WALES, Wales

Entry requirements

For students from Hong Kong

104 including a grade C

*There may be different IELTS requirements depending on your chosen course.

ADD TO MY FAVOURITES

About Cardiff Metropolitan University

Located in the Welsh capital city, Cardiff Metropolitan University offers a range of courses which focus on practical and professional learning.

  • Welsh University of the Year 2021
  • Awarded silver by the Teaching Excellence Framework
  • Student community from over 143 countries
  • Top 15 university for international student support